Call for Candidate Sites

Daeth i ben ar 26 Medi 2023

Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) Torfaen 2022-37

Galwad am Safleoedd Ymgeisiol 1 Awst – 26 Medi 2023 

Sylwer bod yr holl wybodaeth y gofynnir amdani ar y ffurflen cyflwyno safle ymgeisiol yn angenrheidiol er mwyn i’r Cyngor allu cynnal asesiad o’r safle a gyflwynir, yn unol â’r fethodoleg a gyhoeddwyd. Mae’n bwysig, felly, fod pob cwestiwn yn cael ei ateb a bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei rhoi. 

Rhaid llenwi ffurflen cynnig safle ymgeisiol ar wahân ar gyfer pob safle a gyflwynir. 

Os cynigir defnydd gwahanol ar gyfer yr un safle, bydd gofyn llenwi ffurflen cynnig safle ymgeisiol ar wahân ar gyfer pob defnydd.

Wrth dderbyn cynigion, nid yw’r Cyngor yn gwarantu y bydd y safle ymgeisiol yn cael ei gynnwys (ei ddyrannu) yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN). Bydd gofyn asesu pob safle yn unol â’r Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol (Mai 2023). 

Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi Nodyn Canllaw ar gyfer Cyflwyno Safle Ymgeisiol (Mai 2023) ac mae ar gael ynghyd â’r fethodoleg asesu a nodiadau canllaw perthnasol eraill, ar wefan y Cyngor - Cynllun Datblygu Lleol Newydd Torfaen: Safleoedd Ymgeisiol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Unwaith y byddwch wedi dechrau llenwi’r ffurflen hon, bydd yn arbed yn awtomatig er mwyn i chi allu ei llenwi dros fwy nag un sesiwn os oes angen gwneud hynny arnoch.

Os ydych yn cael trafferth wrth ddefnyddio’r system, rhowch dro ar ein canllaw cymorth.

Gwybodaeth Bersonol

Ar 25 Mai 2018 daeth y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) i rym gan gyflwyno cyfyngiadau newydd ar y modd y mae sefydliadau’n gallu dal eich data personol, a’u defnyddio. Roedd hefyd yn diffinio eich hawliau o ran y data hwn.

Er mwyn cyflwyno safleoedd, mae gofyn i chi ddarparu data personol, gan gynnwys enwau a gwybodaeth gyswllt ar gyfer perchnogion tir ac asiantau. Ni dderbynnir ffurflenni a gyflwynir yn ddienw. Byddwn yn trin yr holl wybodaeth bersonol yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y CDLlN  PN139 - Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Datblygu Lleol Newydd | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Ffurflen Cyflwyno Safle ar gyfer Yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol 

Os ydych yn cael trafferth wrth ddefnyddio’r system, rhowch dro ar ein canllaw cymorth.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig